Mr Pym the Plumber / y Plymar

01938 552020

about us | meet the team | contact

Dyma grynodeb o waith Mr Pym a Gwres Glas - mi fydd mwy o'r wefan ar gael drwy gyfrwng y Cymraeg cyn bo hir.

Paneli egni'r haul

Rydym yn gosod paneli egni'r haul i gynhyrchu dŵr poeth neu trydan. Mae'r paneli yn dod o gwmni Navitron - dyma'r cysylltiad i'w wefan: http://www.navitron.org.uk/ Yn ogystal â phaneli, mae angen silindr priodol. Mewn rhai achlysuron, fe fedrwn addasu hen silindr, ond nid yw'r broses o drosglwyddo'r egni i'r dŵr mor effeithiol. Ein nôd yw gosod silindr da a digon o baneli i sicrhau fod y dŵr yn boeth dros ben, nes fod angen ei chymysgu â dŵr oer gerllaw'r silindr, fel na chaiff neb ei losgi.

Ar gyfer paneli photovoltaic, rydym yn cydweithio gyda Midsummer Energy, sef http://midsummerenergy.co.uk

Pympiau gwres, gwres tan llawr ac awyru

Mae pwmp gwres yn ffordd effeithlon o gynhesu adeilad sydd âc ynysiad da, yn enwedig os yw'r gwres yn cael ei ddosbarthu trwy peipiau tan y llawr. Os am gynhesu'r adeilad, waeth ei gadw'n gynnes, drwy ddefnyddio offer awyru mecanyddol, sydd yn sicrhau fod yr awyr bob amser yn iach a sych, heb fod angen agor ffenestri. Yn ystod adegau oer y flwyddyn, mae hyn yn golygu fod angen dipyn llai o egni i gadw'r adeilad yn gynnes.

Defnyddio coed tân neu olew

Mae gwresogydd cyfoes at gyfer coed tân yn declun effeithlon a chymharol hawdd i'w ddefnydio. Gyda rheolaeth effeithiol i gael y gorau o'r system, gall fod yn fuddsoddiad call. Gallwn hefyd cyfuno gwresogyddion olew a choed tân.

Egni o ddŵr

Rydym yn chwilio am gyfleodd i osod twrbin er mwyn defnyddio egni afonydd neu nentydd. Fe hoffem ddod o hyd i brosiectau lle fyddem yn rhentu tir neu yn buddsoddi ar y cyd.

Galwch gydag ymholiadau ar 01938 552020 neu ysgrifennwch e-bost at rob@mr-pym.co.uk

Gwres Glas - Green Heat, Cyf., trading as Mr Pym the Plumber
Rhif cofrestr cwmniau 5966315, TAW/VAT 891153419